Dyddiad yr Adroddiad

17/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202502459

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Mae Ms B yn fyddar cyn-ieithol (byddardod sy’n digwydd cyn dysgu iaith a lleferydd). Cwynodd am y gofal a gafodd gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag asesiad ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (“ADHD” – cyflwr lle mae’r ymennydd yn gweithio’n wahanol). Holodd Ms B a oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ei hasesiad ADHD yn briodol ym mis Tachwedd 2024, gan roi ystyriaeth lawn i ganllawiau cenedlaethol perthnasol a’i hangen am addasiadau rhesymol. Ar ben hynny, ar ôl iddi anghytuno â’r asesiad hwnnw, holodd Ms B a oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn canllawiau cenedlaethol perthnasol ac wedi rhoi ystyriaeth briodol i’w chais am ail farn.

Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chynnig addasiadau rhesymol priodol i Ms B ar gyfer ei hasesiad ADHD. Roedd hefyd wedi methu ag ystyried nad oedd Ms B wedi cael addasiadau rhesymol pan ystyriodd ei chais am ail farn. Cafodd dau bwynt y gŵyn eu cadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Ms B ac yn cynnig cyfle iddi gael ail asesiad, gan ddarparu unrhyw addasiadau rhesymol, mewn amgylchedd sy’n addas ar gyfer anghenion Ms B. Argymhellodd hefyd y dylai’r timau Iechyd Meddwl a Delio â Chwynion ymgyfarwyddo â’r canllawiau perthnasol a chael hyfforddiant ar gynnig a gwneud addasiadau rhesymol. Yn olaf, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r tîm Delio â Chwynion adolygu sut y deliodd â’r gŵyn yn yr achos hwn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu ar holl argymhellion yr Ombwdsmon.