Dyddiad yr Adroddiad

18/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) / Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202407375

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs W p’un a oedd Cyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) wedi methu â chyflawni ei rwymedigaethau statudol cyn 1 Ebrill 2023 ac ar ôl hynny o ran darparu addysg heblaw yn yr ysgol (“EOTAS”) ac anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) i’w merch, Plentyn B.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chofnodi’n glir, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2023, pam nad oedd yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan a19 o Ddeddf Addysg 1996 o ran darparu EOTAS ar gyfer Plentyn B a’r rhesymau dros ei benderfyniad. Roedd hyn yn achos o gamweinyddu, a chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn i’r graddau cyfyngedig hyn.
Ar ôl i’r Cyngor ddod i wybod am ADY Plentyn B ar 1 Ebrill 2023, dilynodd y ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol o ran cyhoeddi ei Chynllun Datblygu Unigol. Ni chadarnhawyd y rhan hon o’r gŵyn.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs W, atgoffa ei staff addysg i gofnodi pryd y mae ei ddyletswyddau dan a19 yn berthnasol, neu pan nad ydynt, ac i nodi’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniadau a wnaed. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnal sampl ar hap o’i achosion EOTAS o fis Ebrill 2021 ymlaen i ganfod a oedd y penderfyniadau ynghylch ei ddyletswyddau a19 wedi cael eu cofnodi’n briodol.