Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202407222

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Cawsom gŵyn fod Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (“y Cyngor”) wedi methu â chadw at God Ymddygiad Aelodau’r Cyngor (“y Cod”).

Honnwyd bod yr Aelod wedi anfon e-bost at gyflogai’r Cyngor a oedd yn amharchus ac yn fwlio yn ei natur, ac na fyddai’r Aelod yn trafod yr ymddygiad dan sylw gyda swyddogion y Cyngor.

Honnwyd bod yr Aelod wedi mynd ymlaen i erledigaethu’r cyflogai drwy gyflwyno cwyn o gamymddwyn difrifol yn ei erbyn, a honnwyd bod hyn wedi’i wneud fel dial am bryderon a oedd wedi’u cyflwyno i’r Ombwdsmon.

Canfuwyd bod e-bost yr Aelod at gyflogai’r Cyngor yn anghymesur ac yn ddiatal ei naws, a bod ei dôn yn fygythiol ei natur. Canfûm fod yr Aelod wedi methu â chydnabod efallai nad oedd ei gyfathrebu yn cydymffurfio â’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan gynghorwyr lleol, ac iddo hefyd fethu â chydnabod bod ei ymddygiad wedi peri gofid gwirioneddol i eraill. Canfûm hefyd nad oedd unrhyw sail i gŵyn ddilynol yr Aelod o gamymddwyn difrifol yn erbyn cyflogai’r Cyngor, a’i bod yn ymddangos ei bod wedi’i gwneud fel dial am y pryderon a oedd wedi’u cyflwyno i’r Ombwdsmon ynghylch ei ymddygiad.

Canfûm fod y gyfres hon o ymddygiadau yn awgrymu torri’r dyletswydd aelodau i drin eraill â pharch ac ystyriaeth (Paragraff 4(b) o’r Cod), i beidio â bwlio nac aflonyddu ar eraill (Paragraff 4(c) o’r Cod), ac i beidio â gwneud cwynion blinderus neu faleisus yn erbyn eraill (Paragraff 6(1)(d) o’r Cod).