Dyddiad yr Adroddiad

26/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202601015

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (“y Cyngor”) yn ystyried ei chwyn yng ngham 2 Gweithdrefn Gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon na fyddai’r Cyngor yn ystyried cwyn Ms A yng Ngham 2 oherwydd bod y gŵyn yn ymwneud ag Adroddiad Effaith ar Blant (“CIR”), y dywedodd y Cyngor fod Ms A wedi cael cyfle i’w herio yn y Llys. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon, er bod cwyn Ms A yn ymwneud â CIR, nodwyd materion eraill nad oeddent yn ymwneud â’r CIR, a gellid bod wedi uwchgyfeirio’r materion hyn i Gam 2 Gweithdrefn Gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y bydd y Cyngor, o fewn 4 mis, yn cyflawni’r canlynol:

a) Ysgrifennu at Ms A i amlinellu’r broses o uwchgyfeirio’r materion a nodwyd gan yr Ombwdsmon i Gam 2 Gweithdrefn Gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol