Cwynodd Miss A ei bod yn anfodlon ag ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w chwyn am lety dros dro yr oedd wedi’i drefnu iddi mewn gwesty. Cwynodd Miss A am staff y gwesty a’r difrod a achoswyd i’w heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi trefnu’r llety fel rhan o’i ddyletswydd ddigartrefedd i Miss A. Er bod y Cyngor wedi darparu sylwadau gan staff y gwesty mewn ymateb i’r gŵyn, nid oedd ei ymateb yn mynd i’r afael yn ddigonol â phryderon Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod gweithredoedd y Cyngor a’r methiant i ddarparu ymateb digonol wedi achosi anhwylustod i Miss A, gan achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro i Miss A, ailystyried ei chwyn a darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn.