Cwyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth eu merch. Cwynodd hefyd am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’u cwyn a’r ymateb a gawsant.
Ar ôl asesu’r gŵyn, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol i sawl agwedd ohoni. Fodd bynnag, roedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn cyfeirio’n anghywir at eu merch yn cael ei geni gyda micrognathia (ei gên isaf yn llai na’r arfer), a gyfrannodd at ei derbyn i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod a hyd ei harhosiad yn yr Uned (“ yr SCBU”). Hefyd, wrth ymchwilio i’w pryderon, rhoddodd y Bwrdd Iechyd ddyddiadau disgwyliedig ar gyfer cael ymateb, a arweiniodd at ddatblygu disgwyliadau na chawsant eu bodloni wedyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig am y ffordd yr ymdriniwyd â’u cwyn ac i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn i fynd i’r afael â derbyn eu merch i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 6 wythnos.