Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) wedi anrhydeddu ei ymrwymiadau i gynnwys y gymuned yn y gwaith parhaus o oruchwylio a llywodraethu parc lleol, a bod y Cyngor ddim wedi bwrw ymlaen â chais i drosglwyddo asedau cymunedol (“CAT”).
Canfu’r Ombwdsmon fod cwyn Mr A wedi’i chadarnhau’n rhannol yng ngham 1 a cham 2 gweithdrefn gwyno’r Cyngor a’i fod wedi amlinellu’r camau yr oedd yn mynd i’w cymryd i ddatrys cwyn Mr A. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cymryd unrhyw gamau ystyrlon i roi’r camau gweithredu yr oedd wedi cytuno i’w cymryd ar waith.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y bydd y Cyngor, o fewn 1 mis, yn cyflawni’r canlynol:
a) Penodi un uwch swyddog cyfrifol a rhoi gwybod i Mr A pwy yw’r swyddog hwnnw
b) Cadarnhau safle terfynol y cais CAT a’i rannu â Mr A.
c) Trefnu cyfarfod gyda rhanddeiliaid lleol yn dilyn penderfyniad y cabinet ar y cais CAT a chadarnhau’r dyddiad hwnnw gyda Mr A.
d) Cyhoeddi’r pwerau brys perthnasol ar gyfer mis Mawrth 2025, sydd ar goll ar hyn o bryd o wefan y Cyngor.