Cwynodd Mrs B fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chwyn am ei fethiant i gasglu ei gwastraff gardd yn unol â’r amserlen.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn ac nad oedd wedi cofnodi pryderon Mrs B fel cwyn yn unol â’i broses gwyno gorfforaethol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs P i ymddiheuro a rhoi eglurhad am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1 o fewn pythefnos.