Cwynodd Miss A wrth Gymdeithas Tai Hafod am gyflwr gwael ei chegin. Hefyd, cwynodd Miss A am niwed i’w heitemau personol oherwydd yr oedi mewn cynnal atgyweiriadau.
Canfu’r Ombwdsmon fod gwaith atgyweirio heb ei wneud i
nenfwd ei chegin ac nad oedd y Gymdeithas wedi llwyr ystyried iawndal ar gyfer Miss A. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i fynd i’r afael â’r atgyweiriadau oedd heb eu gwneud i nenfwd cegin Miss A o fewn 4 wythnos. Yn ogystal, o fewn pythefnos, gwahodd Miss A i gyflwyno tystiolaeth i gefnogi cais am iawndal. O fewn pythefnos i’r dystiolaeth honno ddod i law a’i hystyried, egluro’r rhesymau pam bod iawndal wedi’i dalu neu ddim.