Dyddiad yr Adroddiad

13/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202510923

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch gwaith atgyweirio sydd heb ei gwblhau yn ei chartref.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu ymateb terfynol i’r gŵyn a bod rhai atgyweiriadau heb eu gwneud.

Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at yr achwynydd, o fewn pythefnos, i gadarnhau’r dyddiad y bydd y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud. Yn ogystal â hyn, cytunodd y Cyngor hefyd, o fewn 6 wythnos, i ddarparu ymateb terfynol i’r gŵyn a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn cwblhau’r gwaith atgyweirio.