Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar fam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd Mr B yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod diffygion a allai wella ansawdd gofal claf.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhesymol, a rhoddodd esboniadau manwl am y gofal a ddarparwyd. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi darparu esboniadau am y penderfyniadau a wnaed wrth drin mam Mr B. Heriodd Mr B ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn a bu cyfle iddo gyflwyno rhagor o wybodaeth i’w hystyried. Ymatebodd y Bwrdd Iechyd i’r wybodaeth ychwanegol i ddweud nad oedd ganddo ddim byd pellach i’w ychwanegu. Ystyriodd yr Ombwdsmon gyflwyniad ychwanegol Mr B. Penderfynodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â’i bryderon ynghylch y driniaeth allrediad eisbilennol a pham roedd y Bwrdd Iechyd o’r farn bod y driniaeth honno’n briodol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n ailystyried pryderon heb eu datrys Mr A ac ymateb iddo’n ysgrifenedig o fewn 1 mis.