Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd Mrs A fod methiant wedi bod i gynnal ymchwiliadau diagnostig fel sgan MRI, ac oherwydd hynny fe dalodd am sgan preifat. Cwynodd Mrs A hefyd fod oedi wedi bod o ran atgyfeirio a thriniaeth; bod cyfleoedd wedi’u colli i gymryd mesurau ataliol i atal dirywiad; bod oedi cyn rhoi diagnosis o’i chyflwr; a’i bod wedi cael y cyngor anghywir.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb digonol i bryderon Mrs A, yn enwedig o ran y rhesymeg dros beidio â chynnal ymchwiliadau diagnostig. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs A o fewn 1 mis gan roi esboniad llawn iddi am y penderfyniadau a wnaeth mewn perthynas â’i gofal a’i thriniaeth