Cwynodd Mr X fod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi methu ag ymateb a datrys y gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2025 a mis Chwefror 2026.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Corff wedi galw’r achwynydd ddwywaith i drafod y gŵyn, nad oedd wedi darparu ymateb ffurfiol ysgrifenedig yn amlinellu’r cam nesaf i uwchgyfeirio’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i ymddiheuro i Mr X o fewn 4 wythnos, am beidio â rhoi gwybod iddo am gam nesaf y broses gwyno, yn ogystal â rhoi esboniad ynghylch sut y gellir datrys y mater a darparu ymateb ysgrifenedig i’r gŵyn.