Cwynodd Miss A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi mynd i’r afael yn llawn â’i chwyn am y gofal a’r driniaeth a gafodd ar ôl cwblhau cemotherapi ym mis Mehefin 2024.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael yn ddigonol â phryderon Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss A am beidio â mynd i’r afael â’i phryderon ac i ddarparu ymateb pellach yn ystyried cwmpas y gŵyn yn llawn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.