Dyddiad yr Adroddiad

21/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202509049

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am benderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i beidio ag ymchwilio i gŵyn am y gofal cartref a gafodd ei diweddar dad gan asiantaeth gofal, wedi’i ariannu’n rhannol gan becyn gofal y Cyngor.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi rhoi gwybod i Ms A yn ysgrifenedig pam na fyddai’n ymateb i’w chwyn, nad oedd y rhesymau a ddarparwyd yn cyfateb i’r amgylchiadau. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn pythefnos, yn ailystyried ei benderfyniad i beidio ag ymchwilio, a phe bai’n aros o’r un farn, y byddai’n ysgrifennu at Ms A i egluro’n glir y rhesymeg dros y penderfyniad.