Cwynodd Mr A am amrywiol faterion yn ymwneud â’r gofal a ddarparwyd i’w ddiweddar fam, a oedd wedi dioddef o glefyd Parkinson. Roedd Mr A o’r farn nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb, neu ddim wedi ymateb yn ddigonol, i bryderon penodol yr oedd wedi’u codi.
Pan oedd y Bwrdd wedi ceisio mynd i’r afael â’i bryderon, roedd Mr A hefyd yn poeni am ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn gyffredinol. Roedd y pryderon hyn yn cynnwys gofyn pwy benderfynodd bod angen hylifo meddyginiaethau ei fam ym mis Hydref 2024, y rheswm dros oedi cyn i arbenigwr Parkinson gymryd rhan yn ei gofal, tynnu cathetr ei fam, a darparu padiau anymataliaeth.
Canfu’r asesiad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i bryder yr oedd Mr A wedi’i godi ynghylch nifer o byliau o dagu yr oedd ei ddiweddar fam wedi’u dioddef yn 2024. Hefyd, nid oeddent wedi ymateb yn ddigonol i bryder yr oedd wedi’i godi am gyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â Phractis Meddyg Teulu ei ddiweddar fam ynghylch gwasgu/hylifo ei meddyginiaethau. Roedd hynny gyfwerth â chamweinyddu, a achosodd i Mr A ddioddef anghyfiawnder.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i ymddiheuro i Mr A am fethu â mynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a amlinellir uchod ac i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn ynghylch y materion hyn.
Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y materion eraill yr oedd Mr A wedi’u codi yn ei gŵyn i’r swyddfa hon yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwiliad gan yr Ombwdsmon.