Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi anfon ymateb i’w gŵyn, nad oedd wedi rhoi sylw llawn i’w bryderon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n ysgrifennu ato o fewn 1 mis i fynd i’r afael â’r rhannau o’i gŵyn nad oeddent wedi eu hateb.