Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr, yn enwedig a gafodd ddiagnosis a thriniaeth o fewn yr amserlenni a nodir o dan y Llwybr Sengl Lle’r Amheuir Canser (SCP).
Nododd yr Ombwdsmon mai bwriad yr SCP yw sicrhau bod cleifion yr amheuir bod canser arnynt yn cael eu gweld, eu diagnosio a’u trin o fewn amserlen darged o ddim mwy na 62 diwrnod o’r amheuaeth i’r driniaeth ddiffiniol gyntaf. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon bryderon Mrs C hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal a thriniaeth i’w gŵr o fewn yr amserlenni penodedig hynny. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad ffurfiol.
Er mwyn hwyluso’r datrysiad hwn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i Mrs C o fewn mis, gan fynd i’r afael yn benodol â chydymffurfio ag amserlenni’r SCP.