Cwynodd Mr A am y gofal a ddarparwyd i’w bartner, Ms B, pan ddaeth i’r Adran Achosion Brys gyda phoen difrifol yn yr abdomen a achoswyd gan rwyg yn y coluddyn. Bu oedi wrth asesu Ms B yn yr Adran Achosion Brys. Teimlai Ms B fod yr oedi hwn wedi effeithio ar y canlyniad llawfeddygol iddi. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn Mr A y byddai diagnosis a thriniaeth gynharach o rwyg coluddyn Ms B yn debygol o fod wedi osgoi’r angen i ffurfio stoma.
Canfu’r Ombwdsmon fod y llawdriniaeth a gynhaliwyd yn unol ag ymarfer clinigol derbyniol ac, oherwydd natur rhwyg coluddyn Ms B, y byddai wedi bod yn ofynnol ffurfio stoma hyd yn oed pe bai’r llawdriniaeth wedi cael ei chynnal yn gynt. Felly, dyfarnwyd nad oedd y gŵyn wedi cael ei chadarnhau.