Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs A, gan y Practis. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Practis wedi rhoi gofal a thriniaeth briodol i Mrs A ar 18 Gorffennaf 2024.
Canfu’r Ombwdsmon, ar y cyfan, fod y Practis wedi darparu triniaeth briodol i Mrs A ar 18 Gorffennaf. Er y dylai apwyntiad wyneb yn wyneb fod wedi digwydd y diwrnod hwnnw, a bod hynny’n fethiant gan y Practis, nid oedd unrhyw dystiolaeth glir y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai Mrs A wedi cael ei gweld yn bersonol gan feddyg teulu yn y Practis y diwrnod hwnnw. Canfu hefyd fod gwrthfiotigau priodol wedi’u rhagnodi. O ganlyniad, nid oedd unrhyw anghyfiawnder na chaledi amlwg. Dyfarnodd yr Ombwdsmon nad oedd y gŵyn wedi’i chadarnhau.