Cwynodd Mrs A am y rheolaeth a’r gofal a gafodd ei diweddar frawd, Mr B, yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn benodol, a oedd y penderfyniad i gynnal llawdriniaeth ym mis Mawrth 2023, yn hytrach na rhoi therapi neo-adjiwfant (triniaeth canser, fel cemotherapi sy’n cael ei rhoi cyn y brif driniaeth) yn gyntaf, yn glinigol briodol. Mynegodd bryderon hefyd ynghylch a gafodd ei brawd ymchwiliadau dilynol priodol yn dilyn ei lawdriniaeth ym mis Mawrth 2023.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y penderfyniad i gynnal llawdriniaeth Mr B, a oedd yn benderfyniad a wnaed ar y cyd ag ef ym mis Mawrth 2023, ac a oedd yn unol ag argymhelliad y tîm amlddisgyblaethol gastroberfeddol isaf (y Tîm Amlddisgyblaethol), yn glinigol briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod Mr B, ar y cyfan, wedi cael ymchwiliadau ar ôl llawdriniaeth a gwaith dilynol priodol ym mis Ebrill 2023. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad y dylai canlyniadau prawf Antigenau Carcinoembryonig (CEA) uwch Mr B (prawf sy’n cael ei ddefnyddio i helpu i ragweld a yw canser wedi ail dyfu), fod wedi cael eu hatgyfeirio i’r Tîm Amlddisgyblaethol i ystyried a oedd angen ymchwiliadau ychwanegol. Y rheswm am hyn yw bod y canlyniadau wedi codi’n sylweddol ym mis Rhagfyr 2023 o’i gymharu â mis Awst. Yn hytrach, penderfynwyd bod canlyniadau CEA uwch Mr B wedi’u hachosi gan broblem llidus yn dilyn llawdriniaeth i wrthdroi ileostomi. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad pe byddai’r Tîm Amlddisgyblaethol wedi ystyried canlyniadau prawf CEA uwch Mr B, gallai hynny fod wedi ysgogi ymchwiliadau cynharach ac felly nodi bod canser y colon a’r rhefr Mr B wedi ymledu. Er y byddai wedi bod yn annhebygol iawn o fod wedi newid canlyniad trist Mr B, gallai fod wedi arwain at atgyfeiriad cynharach at wasanaethau gofal lliniarol a rheoli poen mwy effeithiol i Mr B, yn gynt nag a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Gallai hefyd fod wedi rhoi mwy o amser i Mr B gynllunio ar gyfer diwedd oes. Canfu’r Ombwdsmon fod yr ansicrwydd dilynol ynghylch yr agwedd hon ar reolaeth Mr B yn anghyfiawnder i Mr B, ei deulu a Mrs A. I’r graddau hyn yn unig y cafodd y rhan hon o gŵyn Mrs A ei chadarnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y methiant gwasanaeth a nodwyd yn yr adroddiad, a’i fod yn rhannu’r adroddiad â chlinigwyr perthnasol yn Nhîm y Colon a’r Rhefr yn ogystal â’r Tîm Amlddisgyblaethol i hwyluso dysgu.