Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202501647

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar chwaer, Ms A, gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar 3 a 4 Mehefin 2024. Yn benodol, cwynodd Mr C nad oedd ei alwadau am ambiwlans ar 3 Mehefin wedi cael eu trin yn briodol a bod oedi cyn i’r ambiwlans gyrraedd, a bu hynny effeithio ar y canlyniad i Ms A.

Canfu’r ymchwiliad, er bod oedi hir cyn i ambiwlans gyrraedd Ms A, nad oedd hyn o ganlyniad i unrhyw fethiannau a nodwyd o ran delio â galwadau a wnaed i’r Ymddiriedolaeth ac oddi yno, a bod yr oedi o ganlyniad i faterion yn ymwneud ag adnoddau. Dyfarnodd yr Ombwdsmon nad oedd y gŵyn wedi’i chadarnhau.