Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Rheoli rhestrau aros (h.y. dileu neu gam-drin lle ar restr)

Cyfeirnod Achos

202600161

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Y nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ym mis Awst 2025 ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau iddi.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn a’i fod wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms Y. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms Y. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac esbonio i Ms Y, o fewn pythefnos, am yr oedi a’r diffyg diweddariadau a chynnig taliad iawndal o £100 iddi i gydnabod yr oedi a’r diffyg diweddariadau. Cytunodd hefyd i roi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos.