Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â chyhoeddi ymateb ffurfiol i’w chwyn ynghylch y driniaeth a’r gofal a dderbyniodd ei thaid.
Canfu’r Ombwdsmon fod Miss A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 8 mis yn ôl ac nad oedd wedi cael ymateb i’r gŵyn o hyd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod gan Miss A gwestiynau heb eu hateb oherwydd hyn a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn a fydd yn cynnwys y rhesymau a’r ymddiheuriad am yr oedi i Miss A.