Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mr A am yr oedi ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.