Dyddiad yr Adroddiad

23/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202511015

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D fod Cyngor Sir Powys wedi methu â newid yr ymchwilydd penodedig i’w chŵyn er iddi fynegi pryderon ynghylch didueddrwydd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod newid yr ymchwilydd, er bod Ms D wedi mynegi pryderon am wrthdaro personol pan allai fod yn briodol i’r Cyngor newid yr ymchwilydd penodedig oherwydd canfyddiad o ragfarn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms D a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms D i ymddiheuro am fethu â newid yr ymchwilydd penodedig, penodi ymchwilydd newydd a chynnal ymchwiliad newydd a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.