Dyddiad yr Adroddiad

30/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau mabwysiadu

Cyfeirnod Achos

202510887

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Cyngor wedi ei thrin yn amhriodol yn ystod prosesau mabwysiadu ac na roddwyd sylw priodol i’w phryderon yn ystod y broses gwyno.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi uwchgyfeirio pryderon Miss A yn briodol drwy broses gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A am fethu â bwrw ymlaen â’i phryderon drwy’r broses gwyno briodol ac i gadarnhau i Miss A y byddai’r gŵyn nawr yn cael ei rhoi yng Ngham 2 trefn gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn pythefnos.