Dyddiad yr Adroddiad

14/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202510774

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn, a wnaeth hi ym mis Mai 2025.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms C. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig o fewn 3 wythnos ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn a chynnig iawndal ariannol o £100 i Ms C i gydnabod yr oedi ac am ei hamser a’i thrafferth wrth gwyno i’r Ombwdsmon.