Cwynodd Miss A fod Cyngor Gwynedd wedi methu ag ymateb i’w chŵyn ynghylch y dreth gyngor. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ystyried pryderon Miss A fel cwyn ffurfiol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A, o fewn 3 wythnos, am fethu ag ystyried ei chŵyn a chyhoeddi ymateb i gŵyn cam 1.