Dyddiad yr Adroddiad

07/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202510582

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A a Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ynghylch y driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb terfynol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A a Mr B, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos, yn darparu ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, ac yn darparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn.