Dyddiad yr Adroddiad

16/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202510581

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr P nad oedd wedi cael gwybod am benderfyniad a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe na allai dorri ei goes i ffwrdd yn ei ganolfan drydyddol orthopedig, ac y byddai angen ei atgyfeirio’n ôl at ei Fwrdd Iechyd lleol ar gyfer y driniaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Mr P wedi cael ei arwain i gredu, mewn gohebiaeth â chlinigwyr, y gellid torri ei goes i ffwrdd yn y Bwrdd Iechyd, ac er y derbyniwyd efallai na fyddai hyn yn bosibl mwyach, nid oedd Mr P wedi cael gwybod am y penderfyniad na’i fod wedi cael ei ryddhau o’r gwasanaeth. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 1 mis, yn ysgrifennu at Mr P i gydnabod ac ymddiheuro na chafodd wybod am y penderfyniad i’w ryddhau, ac i amlinellu unrhyw wersi a ddysgwyd i sicrhau bod llythyrau clinigol yn cael eu copïo i gleifion fel y bo’n briodol.