Cwynodd Mr A am y gofal a gafodd mewn Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd Mr A yn anfodlon â’r ymateb i gŵyn a ddarparwyd gan y Practis.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi methu cynnig esboniad i’r pryderon a godwyd gan Mr A. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ymddiheuro i Mr A am fethu â rhoi esboniad ac i gyhoeddi ymateb pellach o fewn 6 wythnos.