Cwynodd Miss A fod Gofal Cymdeithasol Cymru (“y Corff”) wedi defnyddio’r prawf anghywir yn ei benderfyniad i gau ei chwyn addasrwydd i ymarfer am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Corff wedi dibynnu ar wybodaeth anghywir, nad oedd yn cael ei chefnogi gan bolisi, yn ei benderfyniad i gau cwyn Miss A. Methodd y Corff hefyd â mynd i’r afael â phryderon penodol Miss A a sut roedd yn eu hystyried yn faterion i’r llys yn hytrach na phryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y Corff wedi methu darparu ymateb cywir a phenodol i gŵyn addasrwydd i ymarfer i Miss A.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i ddarparu ymateb i gŵyn Miss A sy’n nodi sut mae’n ystyried bod ei phryderon penodol yn berthnasol i’r llysoedd, yn hytrach na phryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer.