Dyddiad yr Adroddiad

15/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202510227

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y ffordd yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi delio â 2 atgyfeiriad i’w mab, B, gael ei asesu ar gyfer Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod y ddau atgyfeiriad, ond ar ôl talu am asesiad preifat roedd ei mab wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er na ellid penderfynu bod B yn bodloni meini prawf y Bwrdd Iechyd ar gyfer asesiad, nad oedd digon o fanylion yn y nodiadau i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Hefyd, ni chafodd y rhesymau pam nad oedd B yn cyrraedd y trothwy eu hegluro’n ddigonol yn y llythyrau dilynol a anfonwyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 3 mis, yn ysgrifennu at Mrs A i gydnabod ac ymddiheuro am y diffyg manylion yn y llythyrau a’r nodiadau meddygol. Byddai hefyd yn amlinellu unrhyw newidiadau a wnaed, er mwyn sicrhau bod nodiadau a phenderfyniadau yn fwy manwl.