Dyddiad yr Adroddiad

23/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Gwasanaethau anfeddygol

Cyfeirnod Achos

202510196

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd yn amhriodol wedi cyflwyno tair Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaeth (“MARFs”) i’r Cyngor mewn perthynas â digwyddiadau yn ystod arhosiad ei fab fel claf mewnol.

Canfu’r Ombwdsmon fod MARF cyntaf y Bwrdd Iechyd wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor, a hynny heb fod yn unol â’r gweithdrefnau perthnasol, ond bod pryderon ynghylch yr ail a’r trydydd MARF yn gynamserol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn pythefnos, i ymddiheuro i Mr A ac i roi eglurhad ynghylch pryderon parhaus Mr A mewn perthynas â’r ail a’r trydydd MARF. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd, o fewn 1 mis, i atgoffa staff y dylai atgyfeiriadau at y Cyngor mewn perthynas â niwed gael eu gwneud mewn ymateb i bryderon diogelu ynghylch y plentyn dan sylw ac, o fewn 2 fis, i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn.