Dyddiad yr Adroddiad

07/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202510057

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am yr oedi y mae wedi’i wynebu wrth aros am driniaeth ar gyfer ei chataractau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cwynodd Ms A hefyd fod y Bwrdd Iechyd nid yn unig wedi darparu gwybodaeth anghywir am ei thriniaeth barhaus, ond hefyd wedi methu â darparu ymateb i gŵyn a oedd yn ymwneud â’i phryderon unigol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diweddariadau ac esboniadau ystyrlon i Ms A am yr oedi yr oedd wedi’i brofi, ac nad oedd ei ymateb i’r gŵyn yn mynd i’r afael â chwynion penodol Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms A o fewn mis i fynd i’r afael yn llawn â’i phryderon unigol. Ar ben hynny, os bydd oedi naill ai wrth drefnu adolygiad neu ddarparu triniaeth, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i roi gwybod i’r claf a rhoi esboniad.