Cwynodd Miss A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi mynd i’r afael yn llawn â’i chŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w chwaer.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi mynd i’r afael yn ddigonol â’r holl bryderon a godwyd gan Miss A yn ei chŵyn, a phan gysylltodd â’r Bwrdd am y pryderon hynny a oedd heb eu datrys, ni chafodd ymateb. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss A am beidio â chydnabod nac ymateb pan gysylltodd â’r Bwrdd ynghylch canfyddiadau’r ymchwiliad, ac i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn i fynd i’r afael â’i phryderon a oedd heb eu datrys. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.