Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Practis meddyg teulu. Yn benodol, cwynodd Mrs A fod swabiau diagnostig a gymerwyd ganddi hi a’i phlentyn, naill ai wedi’u prosesu’n anghywir, wedi’u halogi neu wedi’u colli. Cwynodd Mrs A hefyd am apwyntiad gyda meddyg teulu, a oedd, ar ôl cael gwybod ei bod yn feichiog, wedi methu â rhoi gwybod iddi fod ei beichiogrwydd yn un risg uchel oherwydd bod ganddi feirws bryd hynny, na darparu unrhyw gyngor na thriniaeth ar gyfer y feirws.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi rhoi ymateb digonol i Mrs A i’w phryderon, yn enwedig mewn perthynas â pha wersi a ddysgwyd a’r camau yr oedd wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis Meddyg Teulu i ysgrifennu at Mrs A o fewn 1 mis yn amlinellu’r gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i’w chwynion, pa gamau a gymerwyd i atal hyn rhag digwydd eto, a sut mae’r newidiadau hynny’n cael eu monitro.