Dyddiad yr Adroddiad

29/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202509808

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cyngor Sir Penfro wedi methu â chymryd camau priodol i fynd i’r afael â chyflwr gwael parhaus yn ei chartref, gan gynnwys problemau lleithder a llwydni. Dywedodd Miss A ei bod wedi mynegi pryderon am gyflwr yr eiddo sawl gwaith yn ystod y flwyddyn flaenorol ond ei bod yn credu nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ddigonol nac wedi bwrw ymlaen â’r mater yn briodol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, er nad oedd Miss A wedi dilyn proses gwyno ffurfiol y Cyngor i’r pen, fod tystiolaeth yn dangos ei bod wedi rhoi gwybod i’r Cyngor am y materion dro ar ôl tro dros gyfnod estynedig. O ystyried natur barhaus y diffyg atgyweirio a adroddwyd a’r effaith bosibl ar Miss A, roedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn gymesur ymyrryd yn gynharach. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i drefnu, o fewn pythefnos, archwiliad o eiddo Miss A i asesu a mynd i’r afael â’r lleithder a’r llwydni a gofnodwyd, ac i gysylltu â Miss A i egluro cwmpas y gŵyn a chadarnhau y byddai’n cael ei hystyried o dan ei drefn gwyno.