Cwynodd Mr A fod Tai Cymoedd i’r Arfordir wedi methu â mynd i’r afael â’r pryderon ynghylch gwaith trwsio a darparu ymateb terfynol i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddo ym mis Tachwedd 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod ffeil y gŵyn yn dal ar agor ac nad oedd y Gymdeithas Dai wedi darparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn.
Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 3 wythnos, ymddiheuro am yr oedi ac egluro pam y digwyddodd hyn.