Dyddiad yr Adroddiad

08/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509472

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y driniaeth a roddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w mab mewn perthynas â thriniaeth ddiangen a gynhaliwyd ym mis Hydref 2025. Roedd Ms A yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cydsyniad priodol ar gyfer y driniaeth. Roedd wedi addasu’r cydsyniad a gafwyd yn 2023 yn ôl-weithredol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi esboniad rhesymol pam ei fod wedi rhoi triniaeth serio ym mis Hydref 2025. Nododd yr Ombwdsmon fod y meddyg ymgynghorol wedi diweddaru telerau’r cydsyniad a gafwyd yn 2023, ac wedi llofnodi adran ‘Cadarnhau Cydsyniad’ y ffurflen gydsynio. Fodd bynnag, er bod y Bwrdd Iechyd wedi dweud ei fod wedi siarad â mab Ms A am y driniaeth, nid oedd wedi llofnodi’r un adran o’r ffurflen gydsynio. Felly, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cydsyniad wedi’i gofnodi’n briodol i roi’r driniaeth serio. Nododd yr Ombwdsmon nad oedd mab Ms A wedi dioddef unrhyw niwed o ganlyniad i’r driniaeth.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A, o fewn pythefnos, am y camgymeriad o beidio â chofnodi cydsyniad ei mab ar gyfer y driniaeth.