Cwynodd Mrs C am y gofal a ddarparodd Cyngor Sir Caerfyrddin i’w phlant, sydd mewn gofal maeth. Cwynodd hefyd na chafodd wybod am gynnydd a datblygiad ei phlant.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i bryderon Mrs C am anghenion dysgu ychwanegol ei phlentyn ac nad oedd wedi darparu digon o wybodaeth am ei hawliau o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r Ddeddf Diogelu Data. Bu oedi hefyd wrth ddarparu cofnodion i Mrs C o gyfarfodydd ynghylch ei phlant. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymchwilio ac ymateb i gŵyn Mrs C ynghylch anghenion dysgu ei phlentyn o fewn 1 mis. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddarparu cofnodion cyfarfodydd, a gwybodaeth ynghylch apeliadau a mynediad at gofnodion, i Mrs C o fewn 1 mis.