Cwynodd Mrs A am y camau a gymerwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynghylch materion cynllunio lleol ac nad oedd wedi cael ymateb i bryderon a fynegwyd.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr Awdurdod wedi rhoi ymateb i gŵyn gorfodaeth gynllunio a gyflwynwyd i Mrs A, a oedd yn manylu ar gasgliadau ymchwiliad yr Awdurdod. Fodd bynnag, yn dilyn pryderon ychwanegol a fynegwyd y tu allan i’r broses hon, nid oedd Mrs A wedi cael ymateb uniongyrchol gan yr Awdurdod, yn unol â’i bolisi pryderon a chwynion. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Awdurdod i ddarparu ymateb llawn yn uniongyrchol i Mrs A i fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd, i gadarnhau unrhyw gamau gweithredu a phenderfyniadau perthnasol a wnaed gan yr Awdurdod. Cytunodd i ddarparu hyn cyn pen 4 wythnos.