Dyddiad yr Adroddiad

23/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202502189

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar a oedd amser aros Ms A ar gyfer llawdriniaeth y goden fustl wedi cael ei reoli’n briodol yn unol â Rheolau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (“yr RTT”), yn benodol a gafodd Ms A ei thynnu’n briodol oddi ar y rhestr aros lawfeddygol ym mis Rhagfyr 2023.

Canfu’r ymchwiliad, heb yn wybod iddi, fod Ms A wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr aros am lawdriniaeth ar y goden fustl gan y barnwyd nad oedd yn ffit i gael llawdriniaeth. Roedd methu â dweud wrthi am y penderfyniad hwn yn gyfystyr â chamweinyddu gan fod hyn yn groes i’r RTT. Collwyd cyfle hefyd i nodi pryd y gallai Ms A fod wedi bod yn ffit i gael llawdriniaeth gan na fu unrhyw apwyntiad dilynol i wirio ei ffitrwydd i fwrw ymlaen. Roedd effaith y methiannau hyn yn golygu nad oedd Ms A yn ymwybodol ei bod wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr aros am gryn amser, a arweiniodd hefyd at Ms A yn aros llawer hirach am lawdriniaeth. Cafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am y gwallau gweinyddol, trefnu hyfforddiant ynghylch y canllawiau RTT diweddaraf, a chynnal archwiliad o’i restr aros am lawdriniaeth i sicrhau bod cleifion llawdriniaeth y goden fustl sy’n cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros yn ystod cyfnod penodol wedi cael gwybod eu bod wedi cael eu tynnu oddi arni yn unol â gofynion RTT.