Dyddiad yr Adroddiad

24/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501014

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a fu oedi gormodol mewn perthynas â diagnosis a thriniaeth canser thyroid Mr C.

Canfu’r ymchwiliad fod adran Clust, Trwyn a Gwddf y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal priodol i Mr C, ac nad oedd cyfleoedd wedi’u colli i roi diagnosis na thrin ei ganser thyroid yn gynt. Dyfarnodd yr Ombwdsmon nad oedd y gŵyn wedi’i chadarnhau.