Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500998

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei merch, Miss A, gan Bractis Meddyg Teulu a oedd yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried yn benodol a oedd symptomau gynaecolegol Miss A wedi cael eu rheoli’n briodol gan y Practis Meddyg Teulu rhwng mis Hydref 2020 a mis Tachwedd 2024, gan ystyried canllawiau perthnasol ar gyfer diagnosio a rheoli endometriosis.

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a roddwyd i Miss A yn briodol a’i fod yn cyd-fynd â’r ymarfer clinigol derbyniol ar y pryd. Er y cydnabuwyd bod Miss A wedi mynd i’r Practis Meddygon Teulu sawl gwaith oherwydd ei symptomau gynaecolegol cyn i atgyfeiriad Gynaecoleg gael ei wneud, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod hyn yn deillio o fethiant gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.