Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr C yn rhesymol ac yn briodol yn dilyn ei lawdriniaeth torgest ar 12 Ebrill 2022, ac a fyddai ymyriad cynharach wedi lleihau’r tebygolrwydd y byddai angen llawdriniaeth bellach ar Mr C. Roedd hefyd yn ystyried a gafodd Mr C wybod yn briodol am y risgiau cysylltiedig cyn ei lawdriniaeth torgest.
Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr C yn briodol yn dilyn ei lawdriniaeth torgest ac na fyddai ymyriad cynharach wedi lleihau’r tebygolrwydd y byddai angen llawdriniaeth bellach arno. Ni chafodd yr elfen hon o gŵyn Mr C ei chadarnhau.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd Mr C wedi cael gwybod yn briodol am y risgiau a oedd yn gysylltiedig â’i lawdriniaeth. Roedd y methiant hwn yn gamweinyddu ar ran y Bwrdd Iechyd ac achosodd anghyfiawnder i Mr C gan na chafodd gyfle priodol i bwyso a mesur manteision ac anfanteision bwrw ymlaen, ac i’r graddau hynny yn unig, cadarnhaodd y rhan hon o’r gŵyn. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr C ac ystyried defnyddio taflenni gwybodaeth i gleifion sy’n benodol i’r driniaeth a ffurflenni cydsynio wedi’u hargraffu ymlaen llaw sy’n benodol i’r driniaeth er mwyn darparu tystiolaeth gyson ac eglur o drafod risgiau perthnasol.