Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar fam-yng-nghyfraith, Ms D, pan gafodd ei hymchwilio a’i derbyn i’r ysbyty am lymffoma tybiedig (math o ganser y gwaed).
Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’r canlynol:
a) A ddylai’r diagnosis lymffoma fod wedi’i wneud yn gynt.
b) A oedd ymchwiliadau neu driniaethau ychwanegol, yn ymwneud â’r lymffoma tybiedig, a ddylai fod wedi cael eu hystyried.
c) A oedd y driniaeth a roddwyd ar gyfer HLH (Lymffohistiosytosis Haemoffagosytig) yn unol â chanllawiau clinigol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y driniaeth wedi bod o safon dda ac nad oedd unrhyw ymchwiliadau na thriniaethau ychwanegol y dylid bod wedi’u hystyried. Ni chadarnhawyd cwynion b) na c).
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi cyn trosglwyddo Ms D i gael gofal haematoleg arbenigol oherwydd argaeledd gwelyau. Roedd hyn wedi peri oedi o ran ymchwiliadau haematoleg a diagnosis posibl am hyd at wythnos. Er bod yr Ombwdsmon yn fodlon na fyddai hyn wedi newid y canlyniad clinigol, roedd y straen a’r ansicrwydd ychwanegol i’r teulu yn ystod y cyfnod hwn o oedi wrth drosglwyddo yn anghyfiawnder. Felly cadarnhawyd cwyn a) i’r graddau hynny.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms C ac adolygu ei weithdrefnau i alluogi cleifion sy’n aros i gael eu trosglwyddo i ward/ysbyty i gael barn arbenigol fwy prydlon a bwrw ymlaen â phrofion diagnostig/delweddu.