Cwynodd Mr B ei fod wedi codi cwyn am atgyweirio ond nad oedd neb wedi dod i’w archwilio na’i thrwsio. Dywedodd fod y concrit ar ben y llwybr wedi chwalu ac yn achosi perygl llithro/baglu.
Canfu’r Ombwdsmon fod mater chwalfa’r concrit wedi’i godi ar yr un pryd â sawl mater arall, a’i fod i bob golwg wedi mynd ar goll ymhlith y gohebiaeth ynghylch pryderon eraill Mr B. Canlyniad hyn oedd nid yn unig bod methiant cyfathrebu i bob golwg wedi digwydd, ond roedd hefyd, o bosibl, yn gyfystyr â methiant i archwilio a chynnal atgyweiriadau angenrheidiol.
Cytunodd y Cyngor, o fewn 1 mis, y byddai’n trefnu apwyntiad arolygu i adolygu statws y llwybr concrit a dod i benderfyniad ynghylch a oes angen atgyweiriad. Cytunodd hefyd i ymddiheuro am beidio â mynd i’r afael â’r mater hwn cyn hyn.