Cwynodd Mrs B fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu â mynd i’r afael yn ddigonol â’i chwyn am leithder a chraciau mawr yn ei waliau. Cwynodd Mrs B hefyd am y diffyg cyfathrebu gan y Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ystyried cwyn Mrs B yn iawn a bod ei gyfathrebu â Mrs B wedi methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Nodwyd bod y Cyngor eisoes wedi ymddiheuro i Mrs B ynghylch y cyfathrebu gwael. O’r herwydd, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs B gydag ymddiheuriad am y methiant i ystyried ei chŵyn yn iawn, ac i gynnal ymchwiliad trylwyr i holl bryderon Mrs B a chyhoeddi ymateb Cam 2 wedi’i ystyried yn iawn o fewn 4 wythnos.